O fewn y Prif Grŵp Gwariant Cymunedau a Phlant cyffredinol, yr elfennau penodol ar gyfer y Pwyllgor yw Cymunedau, Cydraddoldeb, Tai, Adfywio a Diogelwch Cymunedol. Mae’r cyllidebau ar gyfer yr elfennau hyn wedi’u crynhoi yn y tablau isod.
|
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 (Mehefin 2017) £,000 |
Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2017-18 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2020-21 £’000 |
Refeniw |
189,510 |
189510 |
24,527 |
214,037 |
126,634 |
340,671 |
|
|
Nid Arian Parod |
500 |
500 |
-500 |
0 |
0 |
0 |
|
|
Cyfanswm Adnoddau |
190,010 |
190,010 |
24,027 |
214,037 |
126,634 |
340,671 |
|
|
|
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 (Mehefin 2017) £,000 |
Cynlluniau 2018-19 yn ôl Cyllideb Derfynol 2017-18 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £’000 |
Cynlluniau 2019-20 yn ôl Cyllideb Derfynol 2017-18 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £’000 |
Cynlluniau 2020-21 yn ôl Cyllideb Derfynol 2017-18 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2020-21 £’000 |
Cyfalaf Traddodia-dol |
243,108 |
233,896 |
143,808 |
377,704 |
179,982 |
116,942 |
296,924 |
184,319 |
108,983 |
293,302 |
FTR |
113,337 |
98,748 |
0 |
98,748 |
73,067 |
0 |
73,067 |
44,700 |
0 |
44,700 |
Cyfanswm Cyfalaf |
356,445 |
332,644 |
143,808 |
476,452 |
253,049 |
116,942 |
369,991 |
229,019 |
108,983 |
338,002 |
Trosolwg o’r Gyllideb
Mae’r gyllideb hon yn cynnwys cynlluniau gwariant ar gyfer 2018-19, ynghyd â chyllidebau refeniw dangosol ar gyfer 2019-20 a chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020-21. Dyma ail gyllideb tymor presennol y Llywodraeth a thrydedd flwyddyn setliad Adolygiad Gwariant cyfredol Llywodraeth y DU.
Mae penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi creu ansicrwydd. Sefydlodd Llywodraeth Cymru dîm penodol i gydgysylltu materion y trefniadau pontio Ewropeaidd, sy’n gweithio’n agos â’r tîm cyfredol ym Mrwsel ac adrannau polisi. Gan fod effaith Brexit mor bellgyrhaeddol mae llawer o adrannau Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu eu hadnoddau cyfredol hefyd ar gyfer ymdrin â materion sy’n ymwneud â Brexit yn benodol. Mae ail-flaenoriaethu adnoddau cyfredol yn ddull pwysig a chyfrifol ac yn un y bydd angen ei ddefnyddio ymhellach wrth i fwy o wybodaeth am newidiadau i’r dyfodol gael ei darparu.
Mae cyni’n parhau i fod yn nodwedd sy’n diffinio gwariant cyhoeddus. Mae’r cyfnod hir hwn o ostyngiadau parhaus wedi cael effaith ar bob gwasanaeth, hyd yn oed y rhai yr ydym wedi llwyddo i ddarparu rhywfaint o amddiffyniad iddynt.
Rwy’n cydnabod yr angen parhaus i wneud dewisiadau anodd o ystyried y pwysau parhaus ar arian cyhoeddus ac ar lefel y cyllid sydd ar gael i’r Prif Grŵp Gwariant hwn. Mae’r cynigion cyllideb hyn yn adlewyrchu fy ymrwymiad parhaus i ddiogelu a blaenoriaethu buddsoddiad sy’n cefnogi mesurau ataliol. Mae’r penderfyniadau gwario nid yn unig wedi ystyried y ffordd orau o fodloni’r galw cyfredol am wasanaethau ond hefyd wedi canolbwyntio ar gefnogi ymyriadau sy’n gallu atal problemau rhag codi yn y dyfodol. Mae’r dull ataliol hwn yn rhan bwysig o fy ngwaith cynllunio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, nawr ac yn y dyfodol.
O gychwyn fy mharatoadau Cyllideb rwyf wedi canolbwyntio ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion cynyddol meysydd gwasanaethau allweddol yn y Prif Grŵp Gwariant yn wyneb cyllideb heriol arall. Dros flynyddoedd olynol mae blaenoriaethu gwariant ataliol wedi bod yn ffordd o osgoi ymyriadau mwy costus yn y dyfodol a gwella safon bywydau pobl dros y tymor hir.
Mae dadansoddiad o dystiolaeth ar dueddiadau cyfredol ac amcanestyniadau wedi bod yn sail i ffocws ar y meysydd mwyaf allweddol ar gyfer diwallu anghenion poblogaeth Cymru ac wedi bod yn sail i’r cynigion gwariant hyn.
Y Strategaeth Genedlaethol
Ym mis Medi cyhoeddodd y Prif Weinidog y strategaeth genedlaethol “Ffyniant i Bawb”. Mae’n cyflwyno nodau’r Llywodraeth ac yn egluro sut rydym am i’r Llywodraeth a phartneriaid cyflawni fod yn rhan o’r dull newydd o gyflawni blaenoriaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cefnogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni i gyflwyno’r newidiadau pwysig hyn i’n ffordd o weithio.
Mae’r strategaeth yn cyflwyno 12 o amcanion llesiant diwygiedig a’r camau rydym yn eu cynnig i’w cyflawni. Ynghyd â’r datganiad llesiant a gyhoeddwyd gyda’r strategaeth mae’r amcanion hyn yn nodi’r meysydd lle gall Llywodraeth Cymru wneud y cyfraniad mwyaf at saith nod llesiant Cymru ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer partneriaethau cryf ag eraill.
Mae pob Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i wella sut rydym yn gwneud penderfyniadau am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ein nod yw sicrhau ein bod ni’n adlewyrchu’r egwyddor datblygu cynaliadwy a nod ein cynlluniau gwariant yw sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau tymor byr a thymor hir. Rydym yn cydnabod yr angen i gydweithio â phartneriaid ac i ddefnyddio’n hadnoddau cyfunol yn effeithiol i gynllunio ar gyfer y dewisiadau anodd sydd o’n blaenau.
Blaenoriaethau ar gyfer fy mhortffolio
Adfywio economaidd a llesiant yw’r blaenoriaethau ar gyfer fy mhortffolio. Roedd hi’n anochel bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn wyneb cyni er mwyn sicrhau’r arbedion angenrheidiol yn 2018-19, a 2019-20. Fy mlaenoriaeth oedd diogelu gwasanaethau ataliol rheng flaen yn cynnwys cyllid ar gyfer Cefnogi Pobl, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid.
Byddaf yn buddsoddi £1 miliwn arall ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn 2018-19 a 2019-20 i barhau i ddarparu cymorth brys i ddiogelu iechyd a llesiant rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed wrth i alw gynyddu yn sgil cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn llawn, a £500,000 arall bob blwyddyn tuag at y gwaith pwysig i gefnogi rhai sydd wedi goroesi cam-drin domestig a lleihau achosion ohono.
Rwy’n dyrannu £14.9 miliwn o gyfalaf ychwanegol dros dair blynedd (£6 miliwn yn 2018-19, £4.5 miliwn yn 2019-20 a £4.4 miliwn yn 2020-21) i gefnogi’r gwaith o adfywio cyfleusterau cymunedol; bydd hyn yn helpu i greu cymunedau cryf. Byddaf yn buddsoddi mewn prosiectau dan arweiniad cymunedau sy’n datblygu neu’n gwella cyfleusterau cymunedol fel hybiau cymunedol, helpu i drechu tlodi a gwella cyfleoedd i ddinasyddion lleol.
O ganlyniad i gytundeb y Gyllideb gyda Phlaid Cymru, rwy’n falch o fod wedi gallu canfod £10 miliwn i gynnal y Rhaglen Cefnogi Pobl sy’n werth £124 miliwn, sy’n golygu nad oes toriadau i’r rhaglen yn y naill flwyddyn na’r llall o’r gyllideb. Rwyf hefyd yn buddsoddi £10 miliwn arall mewn digartrefedd, £6 miliwn bob blwyddyn drwy’r Grant Cynnal Refeniw i alluogi awdurdodau i gyflawni ac adeiladu ar eu gwaith llwyddiannus yn atal digartrefedd, a £4 miliwn arall ar gyfer gwaith ar atebion tymor hir i broblemau digartrefedd a chysgu ar y stryd.
Mae £339.6 miliwn o gronfeydd wrth gefn wedi’u rhyddhau dros 2018-19, 2019-20 a 2020-21 i gefnogi’r rhaglen £1.4 biliwn i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod modd parhau i ganolbwyntio ar ddarparu tai cymdeithasol a chynyddu argaeledd perchnogaeth tai cost isel. Bydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn helpu yn ein gwaith i atal problem digartrefedd ac amrywiaeth eang o broblemau personol a chymdeithasol i bobl agored i niwed.
Rwyf am i’r broses o brynu cartref fod yn fwy fforddiadwy drwy gynlluniau Helpu i Brynu, Rhentu i Brynu a rhanberchnogaeth. Byddaf hefyd yn dod â phrynu cartref mewn ardal wledig cost uchel o fewn cyrraedd pobl leol drwy Cymorth Prynu. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o ddarparu atebion tai priodol ar gyfer ein cymunedau amrywiol ledled Cymru. Rwy’n buddsoddi £3.7 miliwn arall yn y Grant Cyllid Tai yn 2018-19 a £1.7 miliwn arall yn 2019-20 i helpu i roi hwb o £250 miliwn i’r sector tai. Mae’r holl raglenni hyn yn cefnogi llesiant a ffyniant economaidd ein cymunedau.
Rwyf wedi cymhwyso egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth geisio dod o hyd i arbedion. Byddaf yn ddidrugaredd wrth barhau i ddileu aneffeithlonrwydd o fewn fy adran fy hun, fel y gwn y mae awdurdodau lleol wedi bod yn ei wneud ac y byddant yn parhau i’w wneud. Yn 2018-19 rwyf am sicrhau y byddwn yn fy adran yn mynd i’r afael ag aneffeithlonrwydd gweinyddol a dyna pam rwyf wedi ymrwymo i ddod o hyd i £2.5 miliwn o arbedion gan ddiogelu cyllid rheng flaen a’r gwasanaethau maent yn eu cefnogi yr un pryd.
Gweithio gyda phartneriaid
Rwyf am i bob awdurdod lleol allu ymateb i anghenion eu poblogaeth, i hyrwyddo eu llesiant, i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Felly rwy’n annog pob bwrdd gwasanaeth cyhoeddus ac awdurdod lleol ledled Cymru i fynd ati i ailgynllunio gwasanaethau ac rwyf am ddarparu’r hyblygrwydd cyllido angenrheidiol iddynt allu gwneud hyn.
Er mwyn cefnogi hyn, yn amodol ar ymgysylltu, rwy’n ystyried cyflwyno Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth newydd i ddisodli’r ffrydiau cyllido niferus cyfredol. Ar hyn o bryd mae yna faich gweinyddol a chydymffurfio’n gysylltiedig â phob grant a byddwn yn ceisio dileu hyn er mwyn gallu sicrhau arbedion. Gallai’r newid hwn greu amgylchedd a fydd yn grymuso awdurdodau lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio ar sail anghenion eu dinasyddion.
Gallai creu un grant olygu y bydd yna rai heriau yn ogystal â llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd angen mwy o atebolrwydd i gefnogi’r hyblygrwydd cynyddol dan ystyriaeth. Bydd y dulliau ar gyfer hyn yn cael eu datblygu gyda phartneriaid allweddol i sicrhau ein bod ni’n cael hyn yn iawn yn strategol a gweithredol. Bydd grŵp bach o awdurdodau lleol ac un bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn treialu’r dulliau hyblyg hyn yn 2018-19. Bydd yn gyfle i ddysgu gan ei gilydd cyn ehangu ymhellach yn 2019-20 o bosibl. Yn y cyfamser, bydd pob awdurdod lleol yn gallu elwa ar fwy o hyblygrwydd i symud cyllid rhwng grantiau.
Rwy’n hyderus y gallai’r cynigion hyn, a ddatblygwyd ar y cyd, liniaru effeithiau cyni a lleihau effaith y £16 miliwn o arbedion sydd eu hangen dros y ddwy flynedd nesaf.
Drwy’r dull hwn byddaf yn ceisio rhyddhau creadigrwydd ac arloesedd mewn awdurdodau lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ddod o hyd i atebion i broblemau lleol tymor hir. Bydd y dull hwn yn adeiladu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddiwygio llywodraeth leol, gan sicrhau mwy o gyfranogiad mewn cymdeithas sifil a democratiaeth.
Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) – prosiect £13.5 miliwn a ariennir ar y cyd gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n targedu rhieni economaidd anweithgar 25 oed a throsodd, a rhieni 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Bydd pob rhiant sydd wedi cofrestru ar PaCE yn ystyried mai gofal plant yw’r prif rwystr i fanteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae yna rwydwaith o 43 o gynghorwyr PaCE sy’n gweithio mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru, yn helpu cyfranogwyr i oresgyn eu rhwystrau a symud tuag at, ac i gyflogaeth gynaliadwy. Mae PaCE yn adeiladu ar y gwasanaethau a gynigir drwy Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf ac yn gweithredu y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, i ategu prosiectau eraill fel Cymunedau am Waith a’r Rhaglen Esgyn.
Nod PaCE yw gweithio gyda 8,278 o rieni dros oes y prosiect, a helpu o leiaf 20% (1,656) o’r rhieni hynny i waith. Ar ddiwedd Medi 2017, roedd y prosiect wedi gweithio gyda2,339 o gyfranogwyr a helpu 665 i gael gwaith.
Rhaglen Esgyn– adlewyrchu ymrwymiad i ddarparu 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl sy’n byw ar aelwydydd heb waith. Mae cyllid o tua £1.2 miliwn y flwyddyn ar gael i gyllido timau bach o fentoriaid cyflogaeth – dau ym mhob ardal fel arfer – sy’n gweithio’n ddyfal i nodi a chefnogi pobl sy’n byw ar aelwydydd heb waith tymor hir i oresgyn y rhwystrau maent yn eu hwynebu i fanteisio ar hyfforddiant a chael gwaith.
Ar ddiwedd Medi 2017, roedd Rhaglen Esgyn wedi darparu 4,969 o gyfleoedd, yn cynnwys cefnogi 1,043 o bobl o aelwydydd heb waith i gael gwaith, gan ei roi ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged cyffredinol erbyn diwedd eleni.
Cymunedau am Waith a Mwy – Ym mis Ebrill 2018 byddaf yn cyflwyno Cymunedau am Waith a Mwy i ddatblygu’r seilwaith hwn, gan gefnogi llwyddiant parhau Cymunedau am Waith a’r Rhaglen Esgyn. Bydd hyn yn darparu bron £12 miliwn y flwyddyn o gymorth i alluogi awdurdodau lleol i wella cymorth ar gyfer cyflogaeth gan ganolbwyntio ar y rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd yn eu galluogi i weithio y tu allan i ffiniau daearyddol tynn cyfredol Cymunedau yn Gyntaf hefyd, gan ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau cymorth ledled Cymru, yn cynnwys y tair ardal awdurdod lleol nad ydynt yn cael budd o Gymunedau am Waith ar hyn o bryd - Ceredigion, Powys a Sir Fynwy. Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar weithredu’r model mewn trafodaeth gydag awdurdodau lleol. Nodwyd pedwar awdurdod lleol fel mabwysiadwyr cynnar ac mae disgwyl i’r model newydd fod ar waith yn yr ardaloedd hynny o 1 Ionawr 2018 ymlaen, gyda’r ardaloedd eraill i ddilyn erbyn 1 Ebrill 2018.
Cynhwysiant Ariannol
Mae Cynhwysiant Ariannol yn parhau i fod yn elfen hanfodol yng ngwaith Llywodraeth Cymru i leihau tlodi a gwella llesiant pobl sy’n byw yng Nghymru. Drwy ddarparu mynediad i gyllid fforddiadwy drwy gymorth ar gyfer undebau credyd a mynediad i wybodaeth annibynnol a dibynadwy drwy gyllido gwasanaethau cynghori, rydym yn helpu pobl i ymdrin â’u problemau a chymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau, sy’n gallu arwain at lai o ddibyniaeth ar y wladwriaeth drwy atal problemau rhag gwaethygu. Cynhaliwyd gwerthusiadau diweddar ar gyllid cynghori i ddangos hyn. Gellir gweld gwerth gweithgareddau cynhwysiant ariannol, yn enwedig gwybodaeth a chyngor fel mesurau ataliol, yn eu rôl strategol gynyddol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, tai a digartrefedd, yn ogystal â rheoli ariannol fel ffordd o atal dyled.
Diwygio Lles
Mae dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif y bydd incwm aelwydydd yng Nghymru’n gostwng tua £600 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i’r newidiadau mewn trethi a diwygiadau i fudd-daliadau i’w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20. Bydd aelwydydd Cymru’n colli 1.6 y cant o’u hincwm net ar gyfartaledd neu £459 y flwyddyn o gymharu ag 1.3 y cant neu £455 y flwyddyn yn y DU yn ei chyfanrwydd.
Bydd aelwydydd incwm is, yn enwedig y rhai â phlant, yn colli llawer mwy ar gyfartaledd (tua 12 y cant o incwm net). Ni fydd aelwydydd sy’n well eu byd a phensiynwyr yn cael eu heffeithio gymaint nac yn cael unrhyw fudd o’r newidiadau hyn.
Bydd teuluoedd mawr yn cael eu taro’n arbennig o galed, gan golli tua £7,750 y flwyddyn neu 20 y cant o incwm net ar gyfartaledd. Y rheswm pennaf am hyn yw’r cyfyngiad i ddau blentyn yn elfen plant credydau treth a’r Credyd Cynhwysol.
Ar gyfartaledd, mae aelwydydd sydd â pherson anabl yn colli llawer mwy na’r rhai lle nad oes person anabl (2.4 y cant neu £618 o gymharu ag 0.9 y cant neu £272 y flwyddyn). Mae’r Sefydliadau Astudiaethau Cyllid yn disgwyl i’r newidiadau hyn gynyddu nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi yng Nghymru.
Cronfa Cymorth Dewisol
Er nad yw’r cymorth mae’r Gronfa’n ei ddarparu yn mynd i’r afael â thlodi nac yn ei leihau mae’n lliniaru rhai o effeithiau diwygiadau lles yn y tymor byr drwy ddarparu taliadau argyfwng i’r rhai sydd heb unrhyw le arall i droi am gymorth brys. Mae’r Gronfa’n darparu cymorth i bobl a allai fod yn agored i niwed mewn argyfyngau ac yn helpu i gynnal bywyd annibynnol drwy helpu rhywun i ail-ymgartrefu yn y gymuned neu barhau i fyw’n annibynnol yn ei gartref, drwy ddyfarnu nwyddau cartref hanfodol ar gyfer hyn. Ers lansio’r Gronfa yn 2013 dyfarnwyd dros £28.5 miliwn, gan gefnogi dros 120,000 o ymgeiswyr mewn angen. Mae £1 miliwn arall wedi’i ddarparu i’r rhaglen yn 2018-19 a 2019-20.
Cyllid Grant Undebau Credyd
Gall undebau credyd wneud cyfraniad pwysig o ran helpu’r rhai a all fod yn byw mewn tlodi i reoli eu harian, ac felly maent yn bartneriaid allweddol yn y gwaith o gyflawni’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Mae cyllid o £422,000 ar gael i undebau credyd yn 2017-18; bydd cyllid yn parhau ar yr un lefel yn 2018-19. Dyfernir cyllid ar sail grant cystadleuol, felly mae’n cyd-fynd yn fwy uniongyrchol ag ymrwymiadau’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ac yn cefnogi’r nodau a nodwyd yn Strategaeth Undebau Credyd Cymru, a gyhoeddwyd fis Mawrth y llynedd. Mae un ar hugain o brosiectau’n cael eu datblygu ledled Cymru - gan gyflawni gwaith allgymorth pwysig mewn cymunedau, er enghraifft gweithio mewn ysgolion i ddatblygu cynlluniau cynilo mewn ysgolion ac mewn carchardai i feithrin arferion cynilo yn ogystal â phrosiectau i gynyddu aelodaeth drwy gyflogres gweithwyr.
Mae atal ac ymyrraeth gynnar yn egwyddorion allweddol sy’n sail i waith yr undebau credyd ac felly mae torri cylch amddifadedd drwy ddulliau ataliol, gan fynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt ddatblygu yr un pryd, yn rhywbeth mae undebau credyd mewn sefyllfa ddelfrydol i’w gyflawni. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gwblhau ar sail cydweithio ac integreiddio, gydag undebau credyd yn rhannu arferion gorau ac yn cydweithio i sicrhau canlyniadau ar nifer o brosiectau.
Gwasanaethau Cynghori
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwelliannau cynaliadwy i iechyd a llesiant holl bobl Cymru ac yn cydnabod bod gan wybodaeth a chyngor ar lesiant cymdeithasol rôl bwysig o ran sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle teg a chyfartal mewn bywyd. Mae £5.97 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddarparu i wasanaethau cynghori i ddarparu prosiect Cyngor Da, Byw’n Well, prosiect Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen a phrosiect Canlyniadau a Rennir Cymunedau yn Gyntaf.
Mae pum sefydliad (Cyngor ar Bopeth Cymru mewn cydweithrediad â Shelter Cymru a Snap Cymru, Age Cymru a Tenovus Gofal Canser) yn darparu gwasanaethau i gefnogi’r gwaith o ddarparu cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud â budd-daliadau lles; dyledion; gallu ariannol; tai a gwahaniaethu. Mae’r sefydliadau hyn yn helpu sector cynghori Cymru i gynnal ei allu arbenigol i gynghori ar les cymdeithasol ac yn ystod 2016-17 cyfrannodd cyllid Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen at sefydliadau gan ymateb i dros 48,000 o geisiadau am wybodaeth a chyngor, gan sicrhau dros £12.7 miliwn mewn enillion incwm.
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi llwyddo i ymgorffori model cyngor cyffredinol ar les cymdeithasol sy’n hyrwyddo mynediad i wasanaethau cynghori’n gadarnhaol ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Gall y cyngor cyffredinol hwn helpu i atal sefyllfaoedd pobl rhag datblygu’n argyfwng, a fyddai’n gofyn am ymyriadau mwy cymhleth. Ers dechrau Cyngor Da, Byw’n Well yn 2012 mae’r prosiect wedi darparu cyngor a chymorth i dros 93,500 o bobl ac wedi helpu pobl i hawlio budd-daliadau lles o dros £101.5 miliwn.
· £5 miliwn o fuddsoddiad i ehangu gwasanaethau ar ffiniau gofal awdurdodau lleol
· £850,000 i gyflwyno’r prosiect Adlewyrchu ledled Cymru gyda’r nod o leihau nifer y plant sy’n mynd i ofal drwy dorri’r cylch o feichiogrwydd ailadroddus ac achosion gofal rheolaidd
· £1.625 miliwn i gefnogi gadawyr gofal i gael dyfodol llwyddiannus ac i fyw’n annibynnol drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i gynlluniau hyfforddeiaeth/lleoliad gwaith awdurdodau lleol ac ymestyn darpariaeth cynghorwyr personol hyd at 25 oed
· £400,000 i weithredu’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol
· £125,000 i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu
Yn ogystal, cyhoeddwyd Cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn gynharach eleni. Mae’r Gronfa hon yn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ariannol i adawyr gofal fel y gallant fanteisio’n llwyddiannus ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant, gan wella eu cyfleoedd o gael bywydau annibynnol.
Eiriolaeth
Gyda’n partneriaid rydym wedi datblygu Dull Cenedlaethol o Eirioli Statudol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant mewn angen ac unigolion penodedig eraill. Mae hyn yn golygu hawliau ac arferion da cyson wrth gomisiynu, darparu a’r ymwybyddiaeth o ddarpariaeth eiriolaeth statudol yng Nghymru. Bydd gweithredu’r Dull Cenedlaethol yn costio tua £1.1 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu hyd at £550,000 i Fentrau Cydweithredol Rhanbarthol Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r cynnig yn llawn; bydd awdurdodau lleol yn ariannu’r gweddill.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu contract dwy flynedd, gwerth £550,000 y flwyddyn, i Pro-Mo-Cymru ar gyfer darparu Meic. Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol yw Meic sy’n darparu un pwynt cyswllt i blant a phobl ifanc drwy rif ffôn am ddim, negeseua gwib a thestun.
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a’n gweledigaeth i Gymru. Credwn y dylai pob unigolyn gael ei drin yn deg, yn enwedig y rhai sy’n cael eu gwthio fwyaf i gyrion cymdeithas gan systemau cymdeithasol sy’n atal pobl rhag diwallu eu hanghenion sylfaenol. Rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy cyfartal, i sicrhau mynediad tecach i wasanaethau a chyfleoedd cymorth i bawb.
Mae’r camau gweithredu mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i wella canlyniadau i bobl a chymunedau yng Nghymru i’w gweld yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-20 a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016. Mae’r Cynllun yn cyd-fynd â ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol’, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae cyllideb Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gweithgareddau canlynol:
Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant – cefnogi Amcanion Cydraddoldeb 2016-20 a nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Rhaglen yn ariannu saith asiantaeth arweiniol i ddarparu cymorth i unigolion a chymunedau ledled Cymru mewn perthynas â rhywedd (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru); anabledd (Anabledd Cymru); Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Tros Gynnal Plant); ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Cyngor Ffoaduriaid Cymru); cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (Stonewall Cymru); hil (EYST) a throseddau casineb (Cymorth i Ddioddefwyr Cymru).
Yn ogystal â darparu cyngor a chymorth arbenigol ar y materion dan sylw drwy dimau pwrpasol ym mhob sefydliad, mae’r asiantaethau arweiniol yn cydweithio hefyd i ddatblygu dulliau mwy cydgysylltiedig ar faterion trawsbynciol sy’n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Disgwylir i’r cydweithio hwn ddatblygu ymhellach dros oes y rhaglen, a fydd yn cael ei gefnogi gan gyfarfodydd rhwydweithio chwarterol a chylchlythyr a rennir.
Cyfraniad at Grant Cydlyniant Cymunedol - Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu gwaith Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, sydd wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol. Mae wyth Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol yn gweithio’n rhanbarthol ar draws y 22 awdurdod lleol, gan ddarparu gwasanaeth Cymru gyfan i gefnogi Cynllun Cyflawni Cenedlaethol Cydlyniant Cymunedol. Caiff £0.36 miliwn y flwyddyn ei ddyrannu i’r maes gwaith hwn, gyda’r £0.2 miliwn ychwanegol yn dod o’r gyllideb Cydlyniant Cymunedol.
Cyfraniad at Grant Gwasanaethau Cyngor Rheng Flaen – wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer darparu cyngor arbenigol ar wahaniaethu.
Rhaglen Waith Cydraddoldeb- yn cynnwys rhaglen waith i ddatblygu ein ffocws ar gydraddoldeb, cynhwysiant a chydlyniant cymunedol, gan weithio tuag at Gymru fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae’r gweithgarwch hwn yn cynnwys digwyddiadau, fforymau a grwpiau; cyhoeddiadau a chyfieithu; a chyfathrebu, ymgynghori, ymgysylltu ac adolygu. Mae hefyd yn cynnwys cyllido gweithgarwch ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ac arian ar gyfer rhaglen a ddarperir drwy UpRising Cymru.
Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb - mae’r Grŵp wedi gwneud gwaith buddiol iawn mewn cyllidebau olynol o ran helpu i wella sail tystiolaeth cydraddoldeb a deall beth sydd fwyaf pwysig i bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae’r gwaith hwn wedi darparu llwyfan pwysig ar gyfer paratoi cyllidebau dros y blynyddoedd.
Elfen allweddol o waith y Grŵp oedd darparu dealltwriaeth o broses Cyllidebau Llywodraeth Cymru ei hun, yr amgylchedd economaidd cyfredol, a’r cyfyngiadau mae’r rhain yn eu rhoi ar ein hystyriaethau cydraddoldeb. Mae hyn wedi creu ffocws cryf ar bwysigrwydd datblygu sail tystiolaeth gadarn a chryf, er mwyn gallu nodi a deall problemau sylfaenol ym maes cydraddoldeb. Mae wedi helpu i wella’r Asesiad o Effaith y Gyllideb dros amser, gan olygu ei fod yn asesiad mwy integredig, sy’n cwmpasu Hawliau Plant, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, anfantais economaidd-gymdeithasol a’r Gymraeg, yn ogystal â chydraddoldeb.
Mae rôl y Grŵp yn cael ei datblygu yn sgil y broses gyllideb ddau gam newydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cytuno ar gynllun gwaith amlinellol ar y cyd gyda’r grŵp ar gyfer 2018, yn cynnwys dau gyfarfod ym mis Chwefror a mis Gorffennaf, a fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar bum blaenoriaeth drawsbynciol Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol.
Mae’r Grant Tai Cymdeithasol yn cyllido cynlluniau tai sy’n diwallu anghenion lleol a blaenoriaethau a nodwyd gan awdurdodau lleol. Mae’r Grant yn cael ei ddarparu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a gellir ei ddefnyddio i ddarparu tai i’w rhentu neu berchentyaeth cost isel drwy adeiladu tai newydd neu ddefnyddio adeiladau cyfredol.
Y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yw’r brif ffynhonnell cymhorthdal ar gyfer darparu tai fforddiadwy yng Nghymru a bydd yn cyfrannu’n sylweddol at darged y Llywodraeth o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.
Grant Cyllid Tai
Bydd Grant Cyllid Tai 2 yn darparu ffrwd refeniw flynyddol i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer helpu gyda chostau benthyca arian i ddatblygu cartrefi fforddiadwy newydd. Bydd y cynllun yn darparu 1,500 o gartrefi newydd yn y tymor llywodraeth hwn.
Grant Tai Fforddiadwy
Bydd Grant Tai Fforddiadwy yn cefnogi awdurdodau lleol sy’n cadw stoc o dai ac sy’n datblygu eu rhaglenni adeiladu tai cyngor newydd eu hunain. Rwyf wedi dyrannu £2.5 miliwn o gyllid refeniw y flwyddyn am y 30 mlynedd nesaf i helpu’r awdurdodau dalu costau datblygu’r cartrefi newydd hyn.
Adeiladu ar gyfer y Dyfodol:
Bydd Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn helpu gydag adfywio canol trefi a’r ardaloedd o’u cwmpas drwy fynd i’r afael â thir diffaith neu adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol. Bydd y rhaglen, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn caffael, adnewyddu neu ailddatblygu tir ac adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio sydd o fewn neu’n agos i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru (yn enwedig y gorllewin a’r cymoedd).
Cynlluniwyd y rhaglen i greu swyddi a thwf ac i gyfrannu at fynd i’r afael ag agenda trechu tlodi. Felly mae cysondeb helaeth rhwng y rhaglen a blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru.
Mae Adeiladu ar gyfer y Dyfodol wedi derbyn cyllid ERDF drwy Flaenoriaeth 4: Cysylltedd a Datblygu Trefol. Yr amcan penodol yw darparu mwy o swyddi drwy fuddsoddi mewn seilwaith lleol neu ranbarthol wedi’i flaenoriaethu gan gefnogi strategaeth economaidd ranbarthol neu drefol.
Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â strategaeth adfywio gyffredinol Llywodraeth Cymru fel y’i gwelir yn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Bydd amcanion y rhaglen yn helpu i gyflawni’r weledigaeth o sicrhau y gall pawb yng Nghymru fyw mewn cymuned lewyrchus, cynaliadwy, llawn addewid, sydd â chysylltiadau da, economi leol gref ac ansawdd bywyd da.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol i flaenoriaethu a datblygu cynigion ledled y gorllewin a’r cymoedd. Mae’r rhagolygon cyfredol yn awgrymu y bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer dros 1,800 o swyddi, yn creu dros 650 o swyddi, yn cynnwys dros 240 o hyfforddiaethau ar brosiectau, yn darparu safleoedd i dros 140 o fentrau a thros 58,000 m2 o adeiladau wedi’u hadnewyddu.
Dyrannwyd £38 miliwn o gyllid ERDF i Adeiladu ar gyfer y Dyfodol ynghyd ag £16 miliwn o Gyllid Cyfatebol wedi’i Dargedu a chyfraniadau gan ffynonellau’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Bydd cyfanswm cost y rhaglen yn dibynnu ar y gymysgedd derfynol o gynigion a gymeradwyir; ond bydd hyn dros £100 miliwn.
Asiantaethau Gwella Cartrefi
Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau yn cynnwys cymorth ymarferol o fewn proses grantiau adnewyddu cartrefi, rheoli gwaith adeiladu, cyngor ar gontractwyr ag enw da a gofal cymdeithasol. Mae gan y rhan fwyaf o’r asiantaethau fentrau ‘Diogelwch yn y Cartref’ a chynlluniau tasgmon ar gyfer tasgau trwsio bychain ond pwysig. Yn 2016-17, darparwyd cymorth i 27,690 o bobl hŷn.
Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio rheng flaen yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r gyllideb. Maent yn darparu gwasanaethau i helpu pobl hŷn i barhau i fyw’n ddiogel ac mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Mae yna asiantaethau Gofal a Thrwsio ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae’r gwasanaeth yn eang, ac yn cynnwys cymorth ymarferol gyda gwelliannau i’r cartref, rheoli gwaith adeiladu a chyngor ar gontractwyr addas.
Rhaglen Addasiadau Brys
Addasiadau i Dai a gweithredu Hwyluso – Cymorth ar gyfer Byw’n Annibynnol
Bob blwyddyn mae tua £50 miliwn yn cael ei wario ar addasu cartrefi pobl hŷn a phobl anabl, gan eu helpu i fyw’n ddiogel ac annibynnol. Mae’r addasiadau hyn yn cael eu hariannu fel a ganlyn:
· Mae awdurdodau lleol yn darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a chyllid arall; Cyllid Cyfalaf Cyffredinol heb ei neilltuo’n bennaf.
· Mae cymdeithasau tai’n darparu cymorth ar gyfer mân addasiadau i’w tenantiaid eu hunain.
· Gall cymdeithasau tai traddodiadol fod yn gymwys am gyllid cyfalaf ar gyfer Grantiau Addasiadau Ffisegol gan Lywodraeth Cymru.
· Mae cymdeithasau Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr yn darparu cymorth i’w tenantiaid drwy eu cynlluniau busnes a chytundebau ag awdurdodau lleol.
· Darperir symiau llai o gyllid i bobl anabl hŷn drwy’r Rhaglen Addasiadau Brys a gyflawnir gan Asiantaethau Gofal a Thrwsio sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru’n bennaf.
Cartrefi Cynnes ar Bresgripsiwn
Dechreuodd cynllun peilot Cartrefi Cynnes ar Bresgripsiwn ym mis Tachwedd 2016 gan alluogi gweithwyr meddygol proffesiynol i roi presgripsiwn am foeleri newydd i gleifion sydd mewn tlodi tanwydd sy’n dioddef o gyflyrau cronig sy’n mynd yn waeth mewn cartrefi oer. Ym mis Ionawr 2017, ymestynnwyd y cynllun peilot i 2017-18 er mwyn ei ddatblygu ymhellach a darparu gwybodaeth am ei gyflawniadau, i lywio penderfyniadau ar barhad ac ehangu’r cynllun i weithredu ar lefel genedlaethol.
Dangosodd tystiolaeth o raglen beilot debyg gan Lywodraeth y DU ostyngiad o 28% mewn apwyntiadau meddyg teulu a gostyngiad o 33% mewn apwyntiadau cleifion allanol. Cafwyd gostyngiad hefyd yn y defnydd o nwy ac arbedion ar filiau nwy misol.
Yn dilyn canlyniadau’r cynllun peilot byddwn yn ystyried a allai unrhyw raglen hirdymor gysylltu â rhaglenni arbed ynni ac addasiadau cartref eraill a darparu gwybodaeth ar gyfer eu targedu.
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Pan fydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith bydd y broses o rentu cartref yn symlach ac yn haws. Bydd yn cyflwyno un fframwaith cyfreithiol clir yn lle’r darnau amrywiol a chymhleth o ddeddfwriaeth gyfredol. O dan y fframwaith hwn bydd gofyn i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau’r landlord a deiliad y contract o dan y ‘contract meddiannaeth’.
Bydd hyn yn cynnwys dyletswydd ar landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi, ar ddechrau a gydol y contract meddiannaeth. Bydd y ddyletswydd hon yn mynd i’r afael â’r amodau tai gwaethaf ac yn rhoi rhwymedigaethau ychwanegol ar landlordiaid, fel gosod larymau mwg a charbon monocsid a gofyniad i gynnal archwiliadau diogelwch trydan bob pum mlynedd.
Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyflwyno rheoliadau ar benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi hefyd. Mae ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y rheoliadau hyn ar y gweill.
Mae’r Ddeddf yn ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau dros filiwn o bobl sy’n rhentu eu cartref yng Nghymru. Yn ogystal â darpariaethau ar gyfer anheddau ffit i bobl fyw ynddynt bydd y Ddeddf yn gwneud darpariaethau ynghylch troi allan er mwyn dial, hawliau olynu, cyd-gontractau a llety â chymorth. Am y rhesymau hyn mae’n bwysig bod landlordiaid, deiliaid contract a rhanddeiliaid yn llwyr ymwybodol o oblygiadau’r Ddeddf. Er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus dyrannwyd £140,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19 i dalu costau gweithgareddau cyfathrebu, hyfforddi a gwerthuso.
Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)
PRIF GRŴP GWARIANT CYMUNEDAU A PHLANT ATODIAD A |
|||||
CYLLIDEB ADNODDAU – Terfyn Gwariant Adrannol |
|||||
Maes Rhaglenni Gwariant |
Camau Gweithredu |
Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £000 |
|
Galluogi Plant a Chymunedau |
Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth |
Cefnogi Cymunedau |
0 |
6,162* |
|
Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth |
0 |
252,153* |
|||
Cynhwysiant Ariannol |
Cynhwysiant Ariannol |
14,927 |
14,927 |
||
Cymorth ar gyfer y Sector Gwirfoddol a Gwirfoddoli |
6,125 |
6,125 |
|||
|
|
|
21,052 |
279,367 |
|
Cymunedau Mwy Diogel |
Cadernid Gwasanaethau Tân ac Achub |
Gwasanaethau Tân ac Achub |
5,709 |
6,309 |
|
Diogelwch Tân Cymunedol |
848 |
848 |
|||
Swyddogion Cymorth Cymunedol |
Swyddogion Cymorth Cymunedol |
16,787 |
16,787 |
||
Cam-drin Domestig |
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol |
5,000 |
2,562 |
||
Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc |
Cyfiawnder Ieuenctid |
4,420 |
0 |
||
Maes Rhaglenni Gwariant |
Camau Gweithredu |
Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £000 |
|
|
|
|
32,764 |
26,506 |
|
|
|
|
|
|
|
Cydraddoldeb a Chynhwysiant |
Cydraddoldeb a Chynhwysiant |
Cydlyniant Cymunedol |
200 |
0 |
|
Cydraddoldeb a Ffyniant |
2,034 |
1,874 |
|||
|
|
|
2,234 |
1,874 |
|
Polisi Tai |
Cefnogi Pobl |
Cefnogi Pobl |
124,488 |
0 |
|
Atal Digartrefedd |
Digartrefedd |
9,907 |
7,907 |
||
Byw’n Annibynnol |
Byw’n Annibynnol |
5,159 |
4,884 |
||
|
|
|
139,554 |
12,791 |
|
Cartrefi a Lleoedd |
Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai Fforddiadwy |
Grant Cyllid Tai |
11,400 |
13,100 |
|
Cyllid Refeniw Tai |
Cyllid Refeniw Rhaglen Tai |
1,073 |
1,073 |
||
Adfywio |
Adfywio |
560 |
560 |
||
Awdurdod Harbwr Caerdydd |
5,400 |
5,400 |
|||
|
|
|
18,433 |
20,133 |
|
|
|
CYFANSWM ADNODDAU |
214,037 |
340,671 |
* Linellau Gwariant yn y Gyllideb newydd ar gyfer 2019-20. Efallai y bydd y Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chymorth yn cael ei greu yn dilyn ymarfer ymgynghori gydag awdurdodau lleol i gyfuno cynlluniau grant cyfredol yn un cynllun i gynyddu hyblygrwydd cyllid.
PRIF GRŴP GWARIANT CYMUNEDAU A PHLANT ATODIAD A |
||||||
CYLLIDEB CYFALAF – Terfyn Gwariant Adrannol |
||||||
Maes Rhaglenni Gwariant |
Camau Gweithredu |
Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £000 |
|
Cymunedau a Threchu Tlodi |
Cymunedau a Threchu Tlodi |
Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr |
9,816 |
8,300 |
5,000 |
|
Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol |
8,000 |
5,034 |
4,838 |
|||
|
|
|
17,816 |
13,334 |
9,838 |
|
Cymunedau Mwy Diogel |
Cadernid Gwasanaethau Tân ac Achub |
Gwasanaethau Tân ac Achub |
1,230 |
1,410 |
1,210 |
|
Diogelwch Tân Cymunedol |
670 |
670 |
670 |
|||
Cam-drin Domestig |
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol |
969 |
969 |
969 |
||
|
|
|
2,869 |
3,049 |
2,849 |
|
Polisi Tai |
Byw’n Annibynnol |
Rhaglen Addasiadau Brys |
5,660 |
5,660 |
5,660 |
|
Y Gronfa Gofal Integredig |
Y Gronfa Gofal Integredig |
10,000 |
15,000 |
20,000 |
||
|
|
|
15,660 |
20,660 |
25,660 |
Maes Rhaglenni Gwariant |
Camau Gweithredu |
Teitl Llinell Wariant yn y Gyllideb |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 £000 |
Cartrefi a Lleoedd |
Sicrhau Tai o Ansawdd Uchel |
Lwfans Atgyweiriadau Mawr a thaliadau gwaddoli llenwi bwlch |
108,000 |
108,000 |
108,000 |
Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai Fforddiadwy |
Grantiau Tai Cymdeithasol |
207,137 |
123,219 |
110,147 |
|
Tir ar gyfer Tai (Trafodion Ariannol) |
10,000 |
10,000 |
10,000 |
||
Gofal Ychwanegol |
4,301 |
0 |
0 |
||
Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai’r Farchnad Agored |
Cronfa Helpu i Brynu Cymru a Chynlluniau Eraill (Trafodion Ariannol) |
88,748 |
63,067 |
34,700 |
|
Adfywio |
Adfywio |
21,921 |
28,662 |
36,808 |
|
|
|
|
440,107 |
332,948 |
299,655 |
|
|
CYFANSWM CYFALAF |
476,452 |
369,991 |
338,002 |